"The grass is green."
Translation:Mae'r glaswellt yn las.
March 23, 2016
7 CommentsThis discussion is locked.
This discussion is locked.
Ydy, wir, yn enwedig am bethau sy'n glas-wyrdd neu fel lliw y môr weithiau, a glaswellt newydd ddechrau tyfu - fresh, efallai. Mae enghreifftiau yn y GPC.
Hefyd gyda 'llwyd', sy'n cael ei ddefnyddio am ryw arlliwiau dywyll, di-liw o 'frown' (mewn cymhariaeth â 'gwinau', sy'n golygu arlliwiau o frown fel chestnut, neu bay). Mae 'y gwinau' yn beth awyddocaol yn y nofel 'Lliwiau'r Eira' gan Alun Jones, Llŷn.
Hefyd, 'melyn' sy'n gallu cynnwys rhai arlliwiau fel 'hufen' neu beige. Er enghraifft, ysgrifennodd Kate Roberts (yn 'Y Lôn Wen'?) rywbeth am draethau Môn yn 'disgleirio yn yr Haul fel croen ebol melyn'.
Tipyn hen-ffasiwn nawr, efallai? Ond Cymraeg coeth, beth bynnag.
Mae freshers mewn prifysgol yn cael eu henwi 'gleision', hefyd.