1. Forum
  2. >
  3. Topic: Welsh
  4. >
  5. Ar ôl gorffen y cwrs Cymraeg.…

https://www.duolingo.com/profile/eino81

Ar ôl gorffen y cwrs Cymraeg...

  • 2041

Dw i'n chwilfrydig am eich llwyddiant ar Duolingo. Dw i'n dod o Hwngari a roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg (hefyd). Dw i ddim yn byw yng Nghymru, dw i'n byw ym Mhrag. Gorffennais i'r cwrs wythnos diwethaf. Yn gynharach dw i wedi archebu llyfrau yn y Gymraeg, geiriadur, llyfr gramadeg, cylchgrawn Golwg. Mae rhai cyfres gyda fi, fel "Gwaith Cartref", "Y Gwyll" (sori, fy hoff cyfres yw o hyd Gwaith Cartref...). Mae dau ffrind Cymraeg gyda fi a dw i'n ceisio ysgrifennu i nhw yn y Gymraeg (ar facebook, wrth gwrs).

Sut oedd y cwrs i chi? Dw i wedi gwneud mwy cwrs ar Duolingo yn barod (dych chi'n gallu gweld hi...) a dw i'n meddwl, bod roedd cwrs hwn y gorau ar ôl cwrs Eidaleg. Yn ddifrifol. Roedd hi'n braf, bod roedd llais (=ynganiad) i bopeth. Mae angen hynny arna i. Nawr, gyda'r help y geiriadur dw i'n ceisio dysgu mwy a mwy yn y iaith hon hardd. Dw i'n gobeithio, bod chi'n gwneud yr un peth.

March 23, 2016

4 Comments


https://www.duolingo.com/profile/Owen263636

Da iawn ti! Mae fy mhrawd ar y sioe 'Gwaith Cartref', mae'n chwarae 'Math'. Fe wnai ddweud wrtho dy fod di'n mwynhau'r sioe!


https://www.duolingo.com/profile/eino81
  • 2041

Diolch :) Dw i wedi gwylio dim ond y tymor cyntaf yn anffodus. Mae Clic y S4C ddim yn gweithio i mi yma, ym Mhrag, os hwn yw cyfres :(


https://www.duolingo.com/profile/rmcode
Mod
  • 1979

llongyfarchiadau


https://www.duolingo.com/profile/eino81
  • 2041

Diolch yn fawr... a diolch yn fawr hefyd i ti, am creu y cwrs.

Learn Welsh in just 5 minutes a day. For free.