https://www.duolingo.com/profile/Mab_y_ddraig

Dw i'n teimlo'n falch iawn!

Wel neithiwr es i i fy nosbarth cymraeg.

Wnes i ddechrau cwrs uwch 1 mis diwetha ar ol dysgu cymraeg efo Say Something in Welsh a Duolingo.

Ro'n i'n trafod y cwrs efo'r tiwtor ac wnes i awgrymu fod y cwrs yn rhy hawdd. Felly wnaethon ni gytuno symud i gwrs arall.

Yn anffodus yr unig cwrs ar gael oedd cwrs hyfedredd. Felly wnes i benderfynu trio'r cwrs.

Ar ol, dim ond dau mis ar bymtheg dw i'n teimlo'n falch iawn iawn.

Diolch o waelod galon i bawb sy wedi datblygu'r cwrs a ssiw hefyd.

October 17, 2017

2 Comments


https://www.duolingo.com/profile/rmcode
Mod
  • 1652

Da iawn chi am ddysgu'r Gymraeg mor gyflym!

October 19, 2017

https://www.duolingo.com/profile/Mab_y_ddraig

Diolch....pob dydd dw i'n gwrando ar radio cymru ar y ffordd i'r gwaith ac ar y ffordd adre hefyd. Y newyddion yn y bore, a Tomo yn y prynhawn. Bob hyn a hyn dw i'n ailwneud SSIW a Duolingo bob dydd hefyd. Eleni, dw wedi darllen deg llyfr. Dim ond un llyfr "go iawn" i fod yn onest ond beth bynnag y peth bwysicach ydy ymarfer cymaint a phosib. Wel yn fy marn i. Hefyd dw i wedi trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr, lle dan ni'n trio treulio'r penwythnos yn y gymraeg yn unig. Felly diolch eto am eich help.

October 19, 2017
Learn Welsh in just 5 minutes a day. For free.